Yn ddistaw/ddystaw disgwyl f'enaid prudd

(Hiraeth am burdeb)
1,2,(3),4,5,6,7,8.
Yn ddistaw disgwyl f'enaid prudd,
O'r diwedd daw,
    nesau mae'r dydd,
  Pan caf roi naid
      i'm nefol nyth,
  Lle byddaf byw yn berffaith byth.

Pa bryd y gwelai'r ddedwydd awr,
I'm beiau'n llu
    gael myn'd i'r llawr?
  Yn bur heb len,
      gael gwel'd fy Nghrist,
  A myned trwy'm holl ofid trist.

Bryd cai ddinystiro'm
    delwau'n llawn,
Sy am lechu
    danai'n ddirgel iawn;
  Llabyddio Agag yn ddi barch,
  A Dagon gwympo o flaen yr Arch.

O anwyl Iesu! brysia, bydd
Yn awr fel iwrch neu lwdn hydd;
  O tyr'd ar frys, a chluda i lawr,
  Fy holl elynion fach a mawr.

Can mil o weithiau
    gwyn fy myd,
Cai goncwest ar fy meiau i gyd;
  Cael bod yn bur trwy nefol ras,
  A darfod sôn am bechod cas.

Gwn mai rhinweddol yw dy waed,
I ddadleu'm hawl o flaen y Tad;
  A chlirio'm ffordd at orsedd gras,
  A maddeu'n llwyr fy meiau cas.

Maddeuaist ganwaith,
    maddeu hyn,
O Arglwydd cann fi etto yn wyn;
  Cyflawna'th waith ar f'enaid gwan,
  Nes d'od o'r anial
      maith i'r lann.

O cofia fi ger bron y Tad,
Gan eiriol yno werth dy waed;
  O dadleu yn awr y'nghanol ne'
  I ti roi'th fywyd yn fy lle.
Cai :: Gai
cann :: càna
lann :: làn

Grawn-Sypiau Canaan 1805

- - - - -
Yn ddystaw disgwyl f'enaid prudd, O'r diwedd daw, nesâu mae'r dydd; Pan gâf roi naid i'm nefol nyth, Lle byddaf byw yn berffaith byth. Mi flinais fod mewn anial fyd, Am fyn'd 'rwy'n glau i'm cartre' clŷd, Lle'r aeth o'm blaen i Frenin ne', Ac yn ei lys gwnaeth i mi le. Lle na bydd brâd i'm mwy, na briw, Nac ŵylo i neb, yn nhŷ fy Nuw; Ond gorphwys byth mewn gwledd ddiboen, Gan edrych ar y nefol Oen. Taw, f'enaid mwy, 'dyw'r ffordd ddim maith, I dŷ fy Nhâd, i ben fy nhaith; Bydd foddlon, cai, fy enaid cu, Nofio yn frau i'r nefoedd fry. Ar fyr bydd lle im' uwch y llen, Câf ddedwydd wawdd i'r nefoedd wèn; Angylaidd wledd mewn nefol wlad, O fanna tŷ fy Nuw a'm Tad. Lle bydda'i y'mhlith y sanctaidd lu, Yn seinio cân i'm Harglwydd cû; Yn berffaith lân heb bechod mwy, Oll yn gyffelyb iddynt hwy.
::

William Williams 1717-91
Aleluia 1749

Tonau [MH 8888]:
Green's (<1811)
Illsley (John Bishop 1665-1737)
Lancaster (<1868)
Sebastian (D Vetter / J S Bach)

gwelir:
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  Oen Duw trag'wyddol Fab y Tad

(Longing for purity)
 
Quietly hope my sad soul,
Eventually it will come,
    the day is drawing near,
  When I can take a leap
    to my heavenly nest,
  Where I will live perfectly forever.

When would the happy hour see,
My faults as a multitude
    getting to go down?
  Purely without a curtain,
      to get to see my Christ,
  And go through all my sad fear.

When will I get the full
    destruction of my images,
Which want to hide
    beneath me very secretly?
  To stone Agag without respect,
  And Dagon to fall before the Ark.

O dear Jesus, hurry, be
Now like a roebuck or a yearling hart;
  O come quickly, and take down,
  All my enemies small and great.

A hundred thousand times
    I would be blessed,
If I had victory over all my faults;
  To get to be pure through heavenly grace,
  And mention of my hateful sins to perish.

I know that thy blood has merit,
To argue my right before the Father;
  And clear my way to the throne of grace,
  And forgive completely my hateful sins.

Thou didst forgive a hundredfold,
    forgive this,
O Lord bleach me white again;
  Fulfil thy work on my weak soul,
  Until I come from the vast
      desert to the shore.

O remember me before the Father,
While pleading there the worth of thy blood;
  O argue now in the midst of heaven
  That thou gavest thy life in my place.
::
::
::

 

- - - - -
Quietly my sad soul expects, At the end to come, approaching is the day; When I get to give a jump to my heavenly nest, Where I shall live perfectly forever. I am weary of being in a desert world, Wanting to go I am swiftly to my secure home, Where went before me the King of heaven, And in his court he made me a place. Where there shall be no treachery for me any more, nor bruise, Nor weeping for anyone, in my God's house; But lying forever in a painless feast, While looking on the heavenly Lamb. Be silent, my soul, evermore, the road is not long, To my Father's house, to my journey's end; Be faithful, thou shalt get, my dear soul, Swim promptly to heaven above. Shortly there shall be a place for me above the curtain, I shall get a happy invitation to the bright heavens; An angelic feast in a heavenly land, Of the manna of the house of my God and my Father. Where I shall be amongst the sacred host, Sounding a song to my dear Lord; Perfectly pure without sin any more, Wholly similar to them.
::

tr. 2010,17 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~